Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
22 Tachwedd 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn adroddiadau ynghylch gwariant ar siaradwyr enwog gan GwE, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y trefniadau atebolrwydd ar gyfer consortia addysg rhanbarthol yng Nghymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynllun i ehangu ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn dilyn adroddiadau y gallai cost hirdymor y prosiect saethu i fyny o £428 miliwn i fwy na £1.2 biliwn?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb y DU ar gyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
(5 munud)
(5 munud)
NDM6575 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mick Antoniw (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle Huw Irranca-Davies (Llafur).
NDM6582 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Eluned Morgan (Llafur).
NDM6583 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle Jeremy Miles (Llafur).
NDM6584 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Eluned Morgan (Llafur).
NDM6585 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dawn Bowden (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Jenny Rathbone (Llafur).
NDM6586 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn lle Joyce Watson (Llafur).
NDM6587 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Huw Irranca-Davies (Llafur).
NDM6588 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Hannah Blythyn (Llafur).
NDM6589 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Joyce Watson (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Jeremy Miles (Llafur).
NDM6590 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lee Waters (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn lle Hannah Blythyn (Llafur).
NDM6591 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jenny Rathbone (Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dawn Bowden (Llafur).
NDM6592 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Jeremy Miles (Llafur).
(60 munud)
NDM6558 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Seilwaith Digidol Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Tachwedd 2017.
(60 munud)
NDM6571 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys:
a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen;
c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac
d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.
Gwelliant 2 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
Gwelliant 3 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
(60 munud)
NDM6566 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) y bydd cyflwyno trethi newydd yng Nghymru heb ganiatâd yr etholwyr, a thrin Cymru fel labordy treth arbrofol, yn niweidio enw da Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru; a
b) bod trethi y DU a Chymru yn ddigon uchel eisoes, yn atal entrepreneuriaeth a thwf ac yn gwasgu cyllidebau pobl sydd ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â blaenoriaethu ymchwil i drethi newydd yng Nghymru ond, yn hytrach, i ddilyn polisïau i wella twf economaidd a chreu swyddi â chyflog da, na fyddant yn gosod beichiau treth ychwanegol ar unigolion a busnesau nac yn cosbi unigolion am sut y maent yn dewis byw eu bywydau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod datganoli treth i Gymru yn rhoi cyfle i wella atebolrwydd Llywodraeth Cymru i bobl Cymru.
2. Yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gyflwyno treth arloesol i gefnogi amcanion polisi amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd.
3. Yn cefnogi cyflwyno treth ar ddeunydd pacio polystyren ehangedig tafladwy.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr a'r dreth gorfforaeth i Gymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu Deddf Cymru 2014 a Deddf Cymru 2017, sy'n datganoli mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn rhoi mwy o atebolrwydd o ran gweithrediadau dydd i ddydd Llywodraeth Cymru.
2. Yn credu bod sail dreth gynhwysfawr yn annog mwy o ffyniant.
3. Yn gresynu at gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Deddf Cymru 2014 (Saesneg yn unig)
Deddf Cymru 2017 (Saesneg yn unig)
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi iddo bleidleisio’n unfrydol o blaid y penderfyniad i brofi’r mecanwaith sydd yn Neddf Cymru i gynnig trethi newydd mewn dadl ar 4 Gorffennaf 2017.
(30 munud)
NDM6567 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Galw am help: diogelu plant sydd ar goll yng Nghymru.
(30 munud)
NDM6570 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Busnes ar ôl Brexit a'r cyfleoedd i Gymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2017